Fighting fund banner

 

Wales email - 11 December 2018 / E-bost Cymru - 11 Rhagfyr 2018

11 December 2018

In today's email:

  1. HE ballot on pay & equality - opening 14 January 2019

  2. EHRC inquiry into racial harassment into publicly funded HEIs

  3. New 51¸£Àû Wales Facebook page

  4. Wales FE disputes on pay & workload - decisions from special FESC held 8 December 2018

1. HE ballot on pay & equality
The special HE sector conference (HEC) in November voted to re-ballot higher education members for industrial action.  The new ballot will involve all branches but this time on an aggregated basis (all results counted together).

The ballot will open on Monday 14 January 2019 and will close on Friday 22 February 2019. HEC also agreed that the same two questions posed in the recent disaggregated ballot will be asked in the new aggregated ballot; do members support strike action and do members support action short of a strike up to and including a marking boycott? Information available via the 51¸£Àû website.

2. Equality & Human Rights Commission (EHRC) inquiry into racial harassment into publicly funded HEIs
The commission launched an inquiry on 4 December 2018 to understand the types of racial harassment experienced at publicly funded higher education institutions (HEIs), such as universities or higher education colleges. They want to hear from staff and students who have experienced, witnessed or helped in an incident of racial harassment from September 2015 onwards.

 Closing date: Friday 15 February 2019 at 23:59.

3. New 51¸£Àû Wales Facebook page
We have had to set up a new FB page. It's still called 51¸£Àû Wales but to make sure it's the correct one, you can search for @walesoffice. If you are already following 51¸£Àû Wales, could you please swap to this one?  If you are not already following, why not start today?!

4. Wales FE disputes on pay & workload
Our apologies that this section has not been translated into Welsh, but there wasn't sufficient time to allow for translation between the meeting and the circulation date for this email.

Further education sector committee (FESC) met on Saturday 8 December and agreed by a majority vote to recommend acceptance of the revised pay offer from the employers. The employers have also agreed a date for the discussion on workload, that will take place on Tuesday 8 January 2019. FESC also agreed to suspend the industrial action to allow the ballot and discussions on workload to take place, therefore the planned strike action on 13 and 14 December has been called off.

This will be the last Tuesday email of 2018. We want to say a big thank you to all of the 51¸£Àû branch officers who work tirelessly on behalf of members every day, and to our members who support the work of the union and contribute to the collective strength of 51¸£Àû Wales.

We wish you a merry Christmas and a happy & peaceful new year.

In solidarity 
 
51¸£Àû Wales / 51¸£Àû Cymru


Yn e-bost heddiw:

  1. Pleidlais Addysg Uwch ar Dâl a Chydraddoldeb - Yn agor ar 14 Ionawr 2019

  2. Ymchwiliad Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i aflonyddu hiliol mewn SAUau wedi'u hariannu'n gyhoeddus

  3. Tudalen Facebook newydd 51¸£Àû Cymru

  4. Anghydfodau Addysg Bellach Cymru ynglŷn â Thâl a Llwyth Gwaith - Penderfyniadau o FESC arbennig a gynhaliwyd 8 Rhagfyr 2018

1. Pleidlais Addysg Uwch ar Dâl a Chydraddoldeb
Pleidleisiodd Cynhadledd Arbennig y Sector Addysg Uwch ym mis Tachwedd i gynnal ail-bleidlais ymhlith aelodau addysg uwch dros weithredu diwydiannol. Bydd y bleidlais newydd yn cynnwys pob cangen ond y tro hwn ar sail gyfunol (y canlyniadau i gyd wedi'u cyfrif gyda'i gilydd)

Bydd y bleidlais ar agor ddydd Llun 14 Ionawr 2019 a bydd yn cau ddydd Gwener Chwefror 22, 2019. Cytunodd Cynhadledd y Sector Addysg Uwch hefyd mai'r union ddau gwestiwn a ofynnwyd yn y bleidlais anghyfunol ddiweddar fyddai'n cael eu gofyn yn y bleidlais gyfunol newydd; ydy'r aelodau'n cefnogi streicio ac ydy'r aelodau'n cefnogi gweithredu ond nid streicio hyd at ac yn cynnwys boicotio marcio? Ceir gwybodaeth ar wefan 51¸£Àû.

2. Ymchwiliad Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i aflonyddu hiliol mewn SAUau wedi'u hariannu'n gyhoeddus
Lansiodd y Comisiwn ymchwiliad ar 4 Rhagfyr 2018 i ddeall y mathau o aflonyddu hiliol a brofwyd mewn sefydliadau addysg uwch sydd wedi'u hariannu'n gyhoeddus, megis prifysgolion neu golegau addysg uwch.
Maent yn awyddus i glywed gan staff a myfyrwyr sydd wedi profi, gweld neu helpu mewn digwyddiad aflonyddu hiliol o fis Medi 2015 ymlaen.

 Dyddiad cau: Dydd Gwener 15 Chwefror 2019 am 23:59.

3. Tudalen Facebook newydd 51¸£Àû
Rydym wedi gorfod rhoi tudalen Facebook newydd ar waith. Mae'n parhau i gael ei galw'n 51¸£Àû Cymru ond i wneud yn siŵr eich bod yn cysylltu â'r un gywir, gallwch chwilio am @walesoffice. Os ydych eisoes yn dilyn 51¸£Àû Cymru, newidiwch i'r cyfrif hwn. Os nad ydych eisoes yn dilyn, beth am ddechrau heddiw?!

4. Anghydfodau Addysg Bellach Cymru ynglŷn â Thâl a Llwyth Gwaith
Rydym yn ymddiheurio nad yw'r adran hon wedi'i chyfieithu i'r Gymraeg, ond doedd dim digon o amser i gyfieithu'r darn hwn rhwng y cyfarfod a'r dyddiad cylchredeg ar gyfer yr ebost hwn.

Best regards / Cofion gorau

51¸£Àû Wales / 51¸£Àû Cymru

Last updated: 6 February 2019